SL(5)389 - Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002 (O.S. 2002/3026) o ran Cymru.  Gwnaed Rheoliadau 2002 i weithredu deddfwriaeth Ewropeaidd ar sail Prydain Fawr (yn benodol Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC dyddiedig 22 Rhagfyr 1999 ar farchnata deunydd atgenhedlol coedwigoedd). Ers hynny mae Rheoliadau 2002 wedi'u diwygio, gan gynnwys yn 2014 mewn perthynas â Lloegr a'r Alban yn unig (gwnaed y diwygiadau hyn gan Reoliadau Deunydd Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) (Diwygio) (Lloegr a'r Alban) 2014). Felly, mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn angenrheidiol i wneud deddfwriaeth Cymru yn unol â rhwymedigaethau cyfraith yr UE, ac i wneud darpariaeth yn unol â'r gyfraith yn Lloegr a'r Alban.

Mae'r diwygiadau'n nodi'r gofynion diwygiedig sy'n gymwys yng Nghymru mewn perthynas â deunydd atgenhedlol y goedwig a gynhyrchir mewn gwledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac yn gweithredu Penderfyniad y Cyngor 2008/971/EC ar gyfwerthedd deunydd atgenhedol coedwig a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd, fel y'i diwygiwyd. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu'n llawn y rhanddirymiad a ganiateir gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/989/EC sy’n awdurdodi Aelodwladwriaethau (yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC) i wneud penderfyniadau ynghylch cyfwerthedd y gwarantau a ddarperir gan ddeunyddiau atgenhedlol y goedwig sydd i’w mewnforio o drydydd gwledydd penodol.

Mae rheoliad 3(1)(b) yn darparu bod y cyfeiriadau at Benderfyniad y Cyngor 2008/971/EC yn y Prif Reoliadau i’w darllen fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2002, sy'n Rheoliadau Prydain Fawr. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig. Mae gwelliannau eisoes wedi'u gwneud o ran Lloegr a'r Alban, yn 2014.  Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn esbonio pam y bu oedi o bron i bum mlynedd rhwng yr adeg y gwnaed y diwygiadau o ran Lloegr a'r Alban yn 2014, a'r diwygiadau a wneir o ran Cymru gan y Rheoliadau hyn.


 

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno. Fel y cyfryw, byddant yn rhan o gyfraith yr UE ar ddargedwir ar y diwrnod ymadael. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019, y diwrnod cyn y diwrnod ymadael.

Caiff y ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn ei diwygio ymhellach ar y diwrnod ymadael gan Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau rhinweddau uchod a nodwyd a hefyd i dynnu sylw at faterion sy'n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.